Cerfluniau Corsiog




Dyma brosiect ymchwil creadigol ar y cyd â Chyfoeth Naturiol CymruChanolfan BioComposites Prifysgol Bangor, wedi ei gefnogi gan grant Creu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Drwy waith safle-benodol ar gorsydd Môn (Cors Bodeilio a Chors Erddreiniog), rydw i wedi bod yn archwilio gwerth materol ac ecolegol mawndiroedd Cymru, ein storfeydd carbon mwyaf effeithlon. Y bwriad yw creu cyfansoddion gludiog a cherfluniau wedi eu hysbrydoli gan y safleoedd arbennig yma. Ymunwch â mi wrth i mi dorchi fy llewys…









Mae fy ymchwil i ddeunyddiau yng Nghanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor yn parhau… dychmygwch gyfuniadau o gregyn gleision chwâl, gweiriau gwastraff melys o Gors Erddreiniog, gwlân ac alginad, yn sypiau sownd. Dwi hefyd wedi bod yn gweithio efo canolfan amgylcheddol ysbrydoledig, Canolfan y Dechnoleg Amgen, yn dysgu am y gylchred galch.




Mae calchfaen yn ddwfn o dan y mawn ar y ffeniau – dyna sy’n creu eu hecosystem alcalïaidd brin sy’n wahanol i’r rhan fwyaf o fawndiroedd. Ers blynyddoedd, dwi wedi bod yn gweithio efo chwarel galchfaen gyfagos ym Moelfre, ac yn defnyddio’r garreg hon yn fy ngwaith. Felly mae gwythïen o galchfaen yn rhedeg drwy'r prosiect yma.




Dyddiadau:

15 Gorffennaf - 16 Medi 2023
Arddangosfa Breuddwyd Gorsiog yn Oriel Brondanw


5 – 12 Awst 2023
Cyflwyniad yn
Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

19 Awst 2023
Sgwrs artist yn Oriel Brondanw yng nghwmni Dr Sarah Pogoda, Prifysgol Bangor a perfformiad gan Faye Tan, NDCWales



31 Hydref 2023
Digwyddiad dros dro gyda cherfluniau a perfformiadau
ar Gors Bodeilio:





Perfformiad ‘Void Fraction’ gan Mari Rose Pritchard a Julie Upmeyer