Artist ydw i sy’n byw yng Nghaernarfon ac yn creu cerfluniau a pherfformiadau yn ymateb i safleoedd penodol. O glymweithiau corsiog i weadau rhynglanwol, dw i’n archwilio’r ffyrdd y mae deunyddiau'n glynu at leoliadau a chymunedau ac yn eu trawsnewid yn ecolegol.
Mae fy arddull ryngddisgyblaethol o weithio wedi ei ffurfio gan fy magwraeth ar ymylon creigiog Môn, fy astudiaethau academaidd mewn Pensaernïaeth ac Ymchwil Artistig, a deng mlynedd o ymarfer creadigol yn ninas Berlin fel rhan o’r artist-duo
Awst & Walther. Arddangoswyd fy ngwaith ar draws Prydain a’r Almaen ac mae gen i waith yn rhan o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llywodraeth Prydain, Senedd Cymru a’r Boros Collection.
Yn ddiweddar bûm yn ffodus i dderbyn gwobr i artistiaid gan yr
Henry Moore Foundation (2022-23) a
Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol (2023-2025) fel rhan o raglen Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, mae fy ymarfer wedi cymryd tro corsiog, gan fy ngalluogi i gymryd amser i archwilio mawndiroedd Cymru yn greadigol mewn cysylltiad â’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. Mae’r gwaith corsiog wedi fy annog i ymestyn fy ffyrdd arferol o weithio, gan gynnig gludiogrwydd materol a throsiadol newydd. Rwyf wedi rhannu’r gwaith mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd amrywiol gan gynnwys Cynhadledd Mawndiroedd yr IUCN 2024 yn y Cairngorms ac Earth Rising yn IMMA Dulyn. Gallwch wrando ar fy syniadau corsiog ar bodlediad Alice Vincent fel rhan o’i chyfres
Why Women Grow, a recordiwyd ar Gors Crymlyn, Abertawe ar ddechrau’r flwyddyn.
Dw i’n byw yng Nghaernarfon ac yn cynnal gweithdai a digwyddiadau yn rheolaidd o fewn fy nghymuned leol ac mewn ysgolion a phrifysgolion ledled y DU a’r Almaen. Mae croeso i chi
gysylltu os oes gynnoch chi syniad yr hoffech ei drafod.
Gweithdy at gors Waun Ddu ar gyfer Peak, 2024
Llun gan Siôn Marshall-Waters
Astudiaethau a gwobrau:
2005
Pensaernïaeth (MA Cantab), Prifysgol Caergrawnt
2005
Ysgoloriaeth Bensaernïaeth, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
2014
Ymchwil Artistig, RCA, Llundain
2015
Gwobr Cymru Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru
2022-23
Gwobr
Henry Moore Foundation Artist Award
2023-25
Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol wedi ei gefnogi gan
Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru
Arddangosfeydd a chomisiynau:
2025
Dianc o ErddiComisiwn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
2025
Comisiwn gofodau cyhoeddus Theatr Clwydfel rhan o ddatblygiad gan benseiri Haworth Tomkins
2024
Aber CyfiawnderYmateb creadigol i Gynllun Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru
2024
Earth RisingIMMA, Dublin
2024
Ymateb creadigol i ddyluniad gardd
Studio Bristowa
Maint Cymru yn sioe frenhinol RHS Chelsea Flower Show
gydag arddangosfa yn
Garden Museum, Llundain
2023
Breuddwyd Gorsiog
Oriel Brondanw, Llanfrothen
2023
SyfrdanolArddangosfa grŵp yn HAUS, ar y cyd rhwng IKT a Mostyn
2023
Agora
Turner House, Penarth a Galeri, Caernarfon
2022
2022
Tafliad carregArddangosfa unigol yn PSM, Berlin
2022
Atlas dros droArddangosfa grŵp yn MOSTYN, Llandudno
2022
POWER! LIGHT!
Arddangosfa grŵp yn Kunstmuseum Wolfsburg
2022
Casglu
Arddangosfa grŵp yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
2021
AnghysbellArddangosfa unigol yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog
2021
Gwobr lluniadu Kyffin Williams
Oriel Ynys Môn (grŵp)
2021
Talking Bout my Generation, Direkte Auktion
Monopol, Berlin (grŵp)
2020
Epona,
arddangosfa rithiol
Y Lle Celf (grŵp)
2019
Haen Arall
Neuadd Ogwen, Bethesda (unigol)
2017
Gap to Feed, Rosa-Luxemburg-Platz, Berlin, wedi ei gomisiynu gan L40 Kunstverein (gosodiad safle-benodol)
2017
Defence,
BINGEN 2017, Skulpturen am Rheinkilometer
2017
Troelli
Arddangosfa arbennig Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Môn (curadur)
2014
Tu HwntBarclodiad-y-Gawres, wedi ei gefnogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Cadw (gosodiad safle-benodol)