Dyma waith ar y gweill sy’n datblygu fel rhan o fy Nghymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol - ymchwil greadigol i fawndiroedd a sut mae hyn yn siapio fy syniadau am ecoleg, cerfluniau a iaith.

Mae mawnogydd yn dirweddau amwys sydd ddim yn hawdd i’w dehongli ar yr olwg gyntaf: maen nhw’n gudd, yn dawel. Dyma diroedd ansefydlog sy’n llawn gweadau gludiog a photensial. Maen nhw’n cydblethu amser daearegol, botanegol a diwylliannol, ac yn gynefinoedd sy’n cwestiynu ein arferion ac yn cynnig fframweithiau materol a chysyniadol ar gyfer ailgyfeirio.

Ymunwch efo fi wrth i mi gasglu fy syniadau corsiog…





Mae mawn yn gorchuddio 4% o arwynebedd Cymru, ac mae’n storio traean o’r holl garbon sy’n y pridd. Mewn cors iach, mae 1mm o fawn yn ffurfio mewn blwyddyn, felly mae metr yn cynrychioli mil o flynyddoedd. Mae mawn yn cymryd ei amser. Mae’r safleoedd yma’n fapiau dwfn sy’n ein helpu i ddarllen y gorffennol a dychmygu’r dyfodol.

 


Mae cydbwysedd a sefydlogrwydd yn amhosib mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd a breuder ecolegol. Rhaid i ni ddysgu i siglo a dod o hyd i fathau eraill o gynhaliaeth. Trwy fy ngwaith ar fawndiroedd dwi’n rhoi fy hun mewn perthynas newydd i safleoedd ac yn y broses mae syniadau materol yn datblygu ac yn siapio fy ymarfer creadigol. Mae cerfluniau’n mynd tu hwnt i wrthrychau tawdog ac yn dod yn bropiau neu’n offer ar gyfer croesi tiroedd ansicr, ac ymgysylltu’n glos efo dynameg ac iaith y gors.











Dyddiadau rhannu:








Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i’r prosiect ddatblygu.







Saesneg