These selected poems are written in response to specific sites (e.g. Traeth Gwyllt, a large sandbank periodically exposed on the Menai Strait) and presented together with a film. They are written in Welsh strict meter form (cynghanedd) and are part of larger research projects.


Natur bur annaturiol
Yn y tonnau maent heno
wrthi'n cyd-weu i greu'r gro
sy'n waddod yng nghysgodion
nos a môr yn Ynys Môn.
Natur bur annaturiol:
Llwch a nialwch yn eu hôl
a phlastig llygredig, rhad,
yn lluoedd dan y lleuad.
Clywir si'r Anthroposen
a'r olew'n rhwbio'r halen
i'r briw, gan bylu'r lliwiau
sydd i ni'n bywiogi'r bae.



Barclodiad y Gawres
Ers oesoedd hir mae tirwedd hanes maith
Ynys Môn yn rhyfedd,
yn graig farmor ar orwedd -
ynys barchus fel y bedd.
A'r bedd cyntedd yn rhyfeddod; ogof
igam ogam; gofod
heb ei aur; clyd yw'r barclod
mud, a bywyd ddim yn bod.
Y bodau dynol olaf yn gerrig,
yn gewri o danaf.
Wedyn o raid, yno'r af
eto'i gael fy ngwynt ataf.
Ataf, eto
y graen a'r gro.
Oriau arian:
rhai mawr, rhai mân,
a'r dŵr dyrys,
blin yn creu blys.
Drws o fwsog -
hen grachen grog,
gwag ac agos
yn nwyd y nos.
Gwyntoedd oeddynt,
haid ar eu hynt:
llwythi llethol,
na ddaw yn ôl.
Gorwel geiriau
gwell yn pellhau
o swyn hen sarn
a'i hud cadarn.
I'r oes oesoedd:
o'i flaen rhof floedd.





