CORSIO

Suddo a glynu mewn cors


Dyddiadau’r arddangosfa:
22 Hydref – 22 Tachwedd 2025

Lleoliad:
Stiwdio Griffith, Campws Dynevor, Coleg Celf Abertawe, SA1 3EU

Yn agored:
10am – 5pm, Llun – Sadwrn

CADWCH Y DYDDIAD: 
Gwener 21 Tachwedd, 5 – 7pm
Digwyddiad clo gyda sgwrs rhwng Manon Awst a Dylan Huw



Mae CORSIO gan Manon Awst yn benllanw pedair blynedd o ymchwil cerfluniol ar fawndir Cymru.

Berf go anghyfarwydd yw corsio sy’n disgrifio suddo a glynu mewn cors. Mae'n deitl addas ar gyfer arddangosfa sy'n cynnig ffyrdd o suddo'n ddwfn i ddeunydd tirwedd, ac yn archwilio sut mae gweithiau cerfluniol yn glynu yn ecolegol dros amser. Mae'r gair hefyd yn gysylltiedig â 'llacio', sy'n cysylltu â sut mae’r artist yn cydweithio’n chwareus â safleoedd a'u deunyddiau.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys ffilm, propiau cerfluniol, cerddi a samplau sy'n rhoi ffurf i ymchwil greadigol a myfyrdodau wedi eu gwreiddio yn ffeniau alcalïaidd Ynys Môn a chorsydd crynedig Eifionydd a Chrymlyn, Abertawe. Trwy ymchwiliadau perfformiadol a deunyddiau cyfansawdd, mae hi'n cofleidio mawn fel sail dwfn sydd â photensial i bylu ffiniau rhwng yr hyn sy'n solet/hylif, gwlyb/sych, byw/marw, sefydlog/ansicr, dynol/mwy-na-dynol.

Bydd cyfansawdd cerfluniol newydd yn cael ei greu ar leoliad yn Stiwdio Griffith – arbrawf o gydweithio perfformiadol gyda deunyddiau a gasglwyd o ffeniau a chorsydd lleol. Mae’r deunyddiau hyn yn cysylltu â gwaith adfer mawndiroedd ac arferion adfywiol heb golli’r cyffyrddiad chwareus, gofodol sy’n nodweddu gwaith yr artist.

Mae CORSIO yn cynnig gofod i ddod i adnabod gwead cyfoethog tiroedd sydd weithiau’n ymddangos yn anhygyrch neu'n anghysbell. Ymhell o fod yn naturiol a chyntefig, dyma gynefinoedd sydd wedi’u mowldio dros amser gan gymunedau dynol a mwy-na-dynol. Er mwyn suddo a glynu mewn cors mae gofyn bod yn agored i dir sydd yn wlyb, araf ac annisgwyl.


I ddod o hyd i’ch cors leol, ewch i:
Porth Data Mawndiroedd Cymru


Gyda diolch i
Alex Duncan (Coleg Celf Abertawe)
Sarah Pogoda (Prifysgol Bangor)
Hanna Huws (Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd)
Mark Bond (LIFEquake, Cyfoeth Naturiol Cymru)
Sam Ridge (Bannau Brycheiniog)
Iona Blockley (Ymddiriodolaeth Cwm Elan)
Simon Curling (Canolfan Biogyfansoddion Bangor)
Ben Roberts (Prifysgol Aberystwyth)
Dylan Huw
Joseph Conran
Judith Musker Turner
Karine Décorne
Arwyn Davies
Chris Mace


Crëwyd llawer o’r gwaith yn yr arddangosfa yn ystod Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol wedi ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Peak Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Elan Links.